Skip to content

Y Tîm

Leigh Oakes headshot
Leigh Oakes

Leigh Oakes yw Prif Ymchwilydd y prosiect Moeseg Integreiddio Ieithyddol (ELI) ac mae’n Athro Ffrangeg a Ieithyddiaeth ym Mhrifysgol Queen Mary, Llundain. Mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar bolisi a chynllunio iaith, iaith a hunaniaeth genedlaethol, ac agweddau ac ideolegau iaith, yn enwedig yng nghyd-destun Quebec, Ffrainc a Sweden. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae wedi ymddiddori’n arbennig yn y ddadl ynglŷn â chyfiawnder ieithyddol, gan gyfrannu at ddatblygu’r maes rhyngddisgyblaethol newydd ‘polisi iaith normadol’, sy’n ceisio cyfuno ymchwil o feysydd ieithyddiaeth gymhwysol, sosioieithyddiaeth a theori wleidyddol normadol. Mae mudo ac integreiddio yn themâu sy’n codi mewn llawer o’i gyhoeddiadau, gan gynnwys Normative Language Policy: Ethics, Politics, Principles (gyda Yael Peled, 2018), Language, Citizenship and Identity in Quebec (gyda Jane Warren, 2007) ac Language and National Identity: Comparing France and Sweden (2001). Mae’n gyd-olygydd ar y cyfnodolyn academaidd Sociolinguistica: European Journal of Sociolinguistics a’r gyfres lyfrau Multilingual Matters.

Yael Peled headshot
Yael Peled

Mae Yael Peled yn Gymrawd Ymchwil yn Sefydliad Max Planck ar gyfer Astudio Amrywiaeth Grefyddol ac Ethnig (MPI MMG). Gan weithio’n bennaf o dan fantell moesegydd iaith, mae ei phrif ddiddordebau ymchwil yn canolbwyntio ar foeseg, gwleidyddiaeth, polisi ar gyfer amrywiaeth ieithyddol, a’r ffenomen o ryngddisgyblaeth mewn ymchwil academaidd. Mae rhaglen ymchwil ryngddisgyblaethol Yael yn cwmpasu athroniaeth, gwyddoniaeth wleidyddol, ieithyddiaeth a meddygaeth. Hi yw awdur Normative Language Policy: Ethics, Politics, Principles (gyda Leigh Oakes, 2018) a chyd-olygydd Language Ethics (gyda Daniel Weinstock, 2020). Mae ei gwaith wedi ymddangos mewn cyfnodolion nodedig (traws)ddisgyblaethol, gan gynnwys yr American Political Science Review, Journal of Politics, Journal of Applied Philosophy, Metaphilosophy, Global Justice, Citizenship Studies, Language Policy, Journal of Multilingual and Multicultural Development, Language Problems and Language Planning, Bioethics, AMA Journal of Ethics, Philosophical Psychology and Science.

Huw Lewis headshot
Huw Lewis

Uwch Ddarlithydd mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth, yw Huw Lewis. Mae ei ddiddordebau ymchwil yn cwmpasu athroniaeth wleidyddol gyfoes, polisi iaith a dadleuon yn ymwneud ag amlddiwylliannedd a chenedlaetholdeb. Mae ei gyhoeddiadau diweddar yn cynnwys New Geographies of Language (gyda Rhys Jones, 2019) a Language Revitalization and Social Transformation (gyda Wilson McLeod, 2021). Mae ei waith hefyd wedi’i gyhoeddi mewn cyfnodolion academaidd blaenllaw, gan gynnwys Political Studies, Policy & Politics a’r Journal of Multilingual and Multicultural Development. Cynt ef oedd y Prif Ymchwilydd ar gyfer y rhwydwaith ymchwil ‘Revitalise’, a ariannwyd gan yr AHRC, a oedd yn dwyn ynghyd grŵp rhyngwladol o ymchwilwyr, ymarferwyr polisi a sefydliadau cymdeithas sifil sy’n gweithio ym maes ieithoedd rhanbarthol neu leiafrifol.

Gwennan Higham headshot
Gwennan Higham

Mae Gwennan Higham yn Uwch Ddarlithydd ym Mhrifysgol Abertawe ac yn arbenigo yn sosioieithyddiaeth y Gymraeg, yn enwedig integreiddio ieithyddol mudwyr rhyngwladol yng Nghymru. Mae ei hymchwil yn rhyngwladol o ran ei gwmpas, gan gynnwys gwaith cymharol sy’n canolbwyntio ar y Ffrangeg yn Québec. Ymhlith ei chyhoeddiadau diweddaraf mae ‘Developing personal integration projects through a Welsh language provision for adult migrants in Wales’ (2024). Mae ei gwaith hefyd wedi’i gyhoeddi mewn cyfnodolion academaidd blaenllaw gan gynnwys Language Policy a’r Journal of Multilingual and Multicultural Development. Mae hi wedi cyfrannu at brosiectau ymchwil rhyngwladol, gan gynnwys fel Cyd-ymchwilydd ar gyfer y prosiect ‘Communication competences for migrants and disadvantaged background learners in bilingual work environments’ (2016-2019) a ariannwyd gan Erasmus+, ac fel Arweinydd Gweithgor ar gyfer prosiect COST Action IS1306 ‘New Speakers in a Multilingual Europe’ (2013-2017). Ar sail ei chefndir yn gweithio ym maes dysgu Cymraeg i fewnfudwyr a’i phrosiect effaith ymchwil tair blynedd (2022-2025) ar ddatblygu’r Gymraeg o fewn y sdarpariaeth Saesneg i siaradwyr ieithoedd eraill (ESOL) yng Nghymru, gall wneud cyfraniad unigryw i waith prosiect ELI trwy ystyried natur dydd-i-ddydd y broses o integreiddio ieithyddol. Ar ben hynny, mae ei hymagwedd damcaniaethol mewn perthynas â phynciau amlddiwylliannedd a rhyng-ddiwylliannedd yn cyd-fynd â gweledigaeth y prosiect  hwn o greu fframwaith systematig a rhyngddisgyblaethol ar gyfer ymchwilio i foeseg integreiddio ieithyddol.

Jude Caithness headshot
Jude Caithness

Mae Jude Caithness (fe/ei) yn fyfyriwr PhD ym Mhrifysgol Queen Mary, Llundain, ac yn arbenigo ar y Ffrangeg a ieithyddiaeth gymhwysol yng Nghanada. Mae ei ymchwil blaenorol wedi canolbwyntio ar ramadeg, polisi a chynllunio iaith, cenedlaetholdeb, a’r gwahaniaethau ieithyddol a chymdeithasol-ddiwylliannol rhwng Canadiaid Ffrangeg a siaradwyr Ffrangeg Ewropeaidd. Mae gan Jude radd BA mewn Ffrangeg a Ieithyddiaeth o Brifysgol Manceinion (2019-2023) ac MA mewn Cyfathrebu Traws-ddiwylliannol a Ieithyddiaeth Gymhwysol o Brifysgol Newcastle (2023-2024). Gan gymhwyso methodoleg ryngddisgyblaethol arloesol prosiect ELI, bydd ei draethawd PhD yn astudio integreiddio ieithyddol yng nghyd-destun penodol Québec, pwnc sy’n destun pryder arbennig yn sgil statws lleiafrifol y Ffrangeg ar draws y ffederasiwn Canadaidd. Mae cyfraniadau eraill Jude i’r prosiect yn cynnwys cynnal a chadw’r wefan ac erthyglau a ysgrifennwyd i gefnogi nodau ehangach y prosiect.

Margo Martin headshot
Margo Martin

Cwblhaodd Margo ei gradd israddedig mewn Sbaeneg a Gwleidyddiaeth Ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 2021. Yn dilyn hyn, aeth ati i astudio gradd Meistr mewn Athroniaeth yn Adran Ieithoedd Modern Prifysgol Aberystwyth. Canolbwyntiodd y prosiect ymchwil hwn ar archwilio’r defnydd o gelf mewn llenyddiaeth er mwyn cyfleu moesau gan gymhwyso safbwynt hermeniwtaidd a ddadblygwyd gan Hans George Gadamer. Nod gwaith Margo yw i archwylio cysyniadau haniaethol yng nghyd destun bywyd dydd i ddydd.