Skip to content

Dull astudio

Mae prosiect ELI yn ceisio datblygu a gweithredu dull rhyngddisgyblaethol unigryw o ddadansoddi polisi iaith yn foesegol, gan fanteisio ar gryfderau ieithyddiaeth gymhwysol, sosioieithyddiaeth ac athroniaeth wleidyddol normadol.

Yn eu hymdriniaeth o faterion polisi iaith, mae ymchwil ym meysydd ieithyddiaeth gymhwysol a sosioieithyddol yn aml yn cyfeirio at gysyniadau normadol megis rhyddid, tegwch, cydraddoldeb, hawliau a democratiaeth. Gall athroniaeth wleidyddol normadol helpu i ychwanegu manylder damcaniaethol ac eglurder cysyniadol i waith o’r fath, trwy sicrhau gwerthfawrogiad manwl o gysyniadau allweddol a’r gwahanol ffyrdd y gellir eu dehongli. Gall hefyd gymell ystyriaeth mwy adeiladol o’r cysylltiadau pŵer sy’n nodweddu gwleidyddiaeth iaith ochr yn ochr â phryderon mwy ymarferol ac o reidrwydd normadol llunwyr polisïau iaith.

Ar yr ochr arall, mae ymchwil ym maes athroniaeth wleidyddol normadol sy’n canolbwyntio ar bolisi iaith yn aml yn tueddu i fod yn haniaethol iawn a wedi’i seilio ar ddealltwriaeth or-syml a thiriogaethol o iaith. Mae natur mwy empirig ymchwil gan ieithyddwyr cymhwysol a sosioieithyddwyr yn cynnig ffyrdd mwy cynnil o drafod iaith, gan gymell gwaith normadol i roi mwy o ystyriaeth i arferion ac anghenion gwleidyddol a ieithyddol lleol. O ganlyniad gall ieithyddiaeth gymhwysol a sosioieithyddiaeth gyfrannu ar lunio ‘athroniaeth wleidyddol gyd-destunol’ (Carens 2000, 2004), sy’n ystyried pryd ac i ba raddau y dylai ffactorau sy’n neilltuol i achosion penodol ddylanwadu ar ein casgliadau moesegol, yn yr achos hwn mewn perthynas â pholisi iaith.

Yn y modd hwn, mae’r prosiect yn ceisio cyfrannu at ddatblygiad pellach y maes ymchwil rhyngddisgyblaethol newydd a adwaenir fel ‘polisi iaith normadol’, drwy ganolbwyntio ar y pwnc cyfoes ac amserol o integreiddio ieithyddol.

Gan dystio i awydd y prosiect i estyn y tu hwnt i ffiniau disgyblaethol, un o’r allbynnau fydd llyfryddiaeth ryngddisgyblaethol ar-lein o gyhoeddiadau perthnasol sy’n trafod integreiddio ieithyddol, a fydd ar gael ar y wefan yn ystod blwyddyn gyntaf y prosiect.