Amdanom
Mewn oes o fudo cynyddol, mae iaith yn aml yn bwnc trafod allweddol mewn dadleuon ynglŷn â integreiddio mewn cymdeithasau democrataidd. Tra bod ymdeimlad cyffredinol y dylai newydd-ddyfodiaid ddysgu iaith y wlad y maent yn symud iddi, ychydig o gytundeb a geir ynghylch beth y dylai hyn olygu yn ymarferol.
• A ddylid disgwyl i newydd-ddyfodiaid ddysgu ieithoedd y wlad y maent yn symud iddi, ac os felly, i ba lefel o hyfedredd?
• Sut a phryd y dylid disgwyl iddynt ddefnyddio’r ieithoedd hyn? A ddylai’r disgwyliadau ymestyn i ddefnyddio’r ieithoedd hyn fel rhan o unrhyw ymwneud anffurfiol, preifat?
• A ddylai integreiddio ieithyddol gael ei weld fel dim mwy na gofyniad i newydd-ddyfodiaid ddysgu iaith newydd, neu a ddylid ei ddehongli fel proses ehangach o integreiddio cymdeithasol trwy gyfrwng yr iaith honno?
• Pa lefel o gefnogaeth neu hyfforddiant ieithyddol y dylai fod disgwyl i gymdeithas ei ddarparu i newydd-ddyfodiaid er mwyn caniatáu iddynt gaffael yr iaith?
• I ba raddau y dylai anghenion ieithyddol newydd-ddyfodiaid fod yn ystyriaeth i sefydliadau cyhoeddus mewn meysydd megis addysg, gofal iechyd, a’r gyfraith a phlismona?
• Ac yn fwy cyffredinol, sut ddylid cydbwyso ystyriaethau megis symudoledd cymdeithasol ac undod cymdeithasol sy’n cael eu hybu trwy sicrhau gafael eang ar iaith gyffredin gyda dyhead dilys rhai fewnfudwyr i gynnal eu treftadaeth ieithyddol neilltuol?
Yn aml caiff safbwyntiau ar y materion hyn eu cyfiawnhau trwy gyfeirio at egwyddorion democrataidd rhyddfrydol megis tegwch, cydraddoldeb, hawliau a dyletswyddau, gan danlinellu natur foesegol dadleuon o’r fath. Fodd bynnag, tra bod cwestiynau moesegol yn ymwneud â hil, ethnigrwydd a rhyw wedi derbyn llawer o sylw, nid yw’r heriau moesegol sy’n ymwneud yn benodol ag integreiddio ieithyddol wedi’u dadansoddi’n ddigon manwl hyd yma. O ganlyniad, prin yw ein ddealltwriaeth o’r hyn sy’n gyfystyr â dull teg a chyfiawn o integreiddio mewnfudwyr i ieithoedd eu gwledydd newydd, na chwaith beth yw natur yr hawliau a’r dyletswyddau y dylid eu priodoli, naill ai i newydd-ddyfodiaid neu aelodau’r gymdeithas sy’n eu derbyn fel rhan o’r broses integreiddio ieithyddol.
Wedi’i ariannu gan Grant Prosiect Ymchwil Ymddiriedolaeth Leverhulme, nod y prosiect Moeseg Integreiddio Ieithyddol (ELI) (2024-2027) yw llenwi’r bwlch hwn trwy gynnig yr astudiaeth ryngddisgyblaethol a systematig gyntaf o foeseg y broses o integreiddio ieithyddol. Mae’r prosiect yn dadansoddi’r heriau moesegol sy’n codi wrth ystyried pwnc integreiddio ieithyddol yng nghyd destun cymdeithasau democrataidd rhyddfrydol craidd, gyda’r nod o ddatblygu fframwaith damcaniaethol gyfunol ar gyfer deall moeseg gymhleth integreiddio ieithyddol. Mae hefyd yn canolbwyntio ar dri chyd-destun gwahanol (Lloegr, Québec a Chymru), gan gydnabod cymhlethdod integreiddio ieithyddol yn sgil bodolaeth amgylchiadau sosioieithyddol a gwleidyddol amrywiol. Yn wir, mae’r ystyriaethau moesegol sy’n codi mewn cymdeithasau iaith mwyafrifol fel Lloegr yn wahanol i’r rheini sy’n codi mewn rhanbarthau lle ceir ‘mwyafrifoedd bregus’ (McAndrew 2013) sy’n methu dibynnu’n llwyr ar statws eu hiaith er mwyn hwyluso integreiddio, fel sy’n wir yn achos Québec, neu mewn achosion fel Cymru lle fo ymdrech ddatblygedig i gynnal ac adfywio iaith leiafrifol. Gan gyfuno mewnwelediadau a dulliau o feysydd ieithyddiaeth gymhwysol, sosioieithyddiaeth a damcaniaeth wleidyddol normadol, bydd y prosiect yn datblygu dadansoddiad moesegol cynnig sy’n ystyried natur amlweddog integreiddio ieithyddol mewn cyd-destunau amrywiol